Ers 2003, cenhadaeth Thunderbird yw cynnig profiad cyfathrebu pwerus y mae modd ei gyfaddasu, sy'n parchu'ch amser, eich data, a'ch preifatrwydd. Mae am ddim i bawb!

Mae cyflawni'r genhadaeth honno'n golygu cadw Thunderbird yn ddiogel, cynnal seilwaith gweinydd cymhleth, diweddaru hen god, cywiro gwallau a datblygu nodweddion newydd. Nid yw'r gweithgareddau hyn yn rhad - mae angen peirianwyr meddalwedd dawnus a seilwaith cadarn.

Felly heddiw rydyn ni'n gofyn i chi ein helpu ni. Os ydych chi'n cael gwerth drwy ddefnyddio Thunderbird, ystyriwch roi cyfraniad i'w gefnogi!

Tîm Thunderbird