Diolch am ddewis Thunderbird!

Mae Thunderbird yn falch o gael ei ariannu gan ein cymuned, nid trwy werthu data personol neu ddangos hysbysebion yn eich blwch derbyn.

Cenhadaeth Thunderbird yw rhoi'r profiad cyfathrebu gorau posibl sy'n parchu preifatrwydd ac yn gyfaddasadwy i chi. Am ddim i bawb i'w osod a'i fwynhau!

Mae cynnal gweinyddwyr drud, trwsio gwallau, datblygu nodweddion newydd, a chyflogi peirianwyr dawnus yn hanfodol ar gyfer y genhadaeth hon.

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i gadw datblygiad Thunderbird yn fyw ac yn ffynnu. Os ydych chi'n cael gwerth o ddefnyddio Thunderbird, ystyriwch roi rhodd i'w gefnogi.

Tîm Thunderbird