Croeso i esblygiad Supernova!

Gyda gwelliannau cod chwyldroadol, mae Nebula yn gosod y llwyfan ar gyfer cyflwyno nodweddion newydd yn gynt, sefydlogrwydd wedi'i atgyfnerthu, gwelliannau ansawdd bywyd sylweddol a mireinio gweledol.

Cyflym a Llyfn

Teimlwch y gwahaniaeth y mae cod clyfrach yn ei wneud yn bosibl! Mae rhyngweithiadau â'ch rhestr negeseuon yn gynt, mae'r gofod e-bost yn fwy ymatebol, ac mae Thunderbird yn fwy sefydlog a dibynadwy.

Golwg Cardiau

Mae'r dyluniad wedi'i ddiweddaru yn gwneud sganio'ch e-byst yn gynt, gyda chynllun mwy deniadol a phrofiad edafedd gwell. Hefyd, mae uchder cardiau e-bost yn addasu'n awtomatig yn seiliedig ar eich gosodiadau, fel bod popeth yn edrych yn iawn.

Lliwiau Acen

Gwell cydnawsedd thema, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr Linux ar Ubuntu a Mint. Bydd eich Thunderbird yn asio'n well â'ch amgylchedd bwrdd gwaith, gan gydweddu lliwiau acennog y system yn ddi-dor.

Paen Ffolder

Mae pentwr o welliannau gan gynnwys rendro cynt a chwilio'r ffolderi unedig, galluoedd dewis aml-ffolder, a gwell adalw o gyflyrau edafedd negeseuon.

Chwyldro Rust

Rydyn ni wedi goresgyn rhwystrau mawr i ddod â Rust i Thunderbird. Mae hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer cod gwell, nodweddion a rennir rhwng y bwrdd gwaith a'r symudol, ac amser datblygu cynt. Mae'n newid hanfodol i'n datblygwyr ac i'n defnyddwyr.