Dyma Thunderbird
Mae Thunderbird yn broject meddalwedd cod agored, rhydd a rhad a sefydlwyd yn 2003 i wneud trefnu a chyfathrebu yn haws. Rydym yn cael ein cynnal gan sgiliau a rhoddion miloedd o unigolion hael ac yn cael ein cefnogi gan Mozilla. Mae gwerthoedd hanfodol yn ein harwain ac yn gwneud ein gwaith yn berthnasol. Darllenwch ymhellach i ddysgu mwy.
Gwerthoedd
Cymuned
Corff
Rhain yw ein Gwerthoedd
Preifatrwydd
Nid chi yw'r cynnyrch.
I ni, mae perchnogaeth data a phreifatrwydd yn hawl i chi ble bynnag rydych yn byw. Mae ein hymrwymiad i'ch data personol yn syml:
- Nid ydym yn ei gasglu na'i storio oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
- Rydym yn cymryd gofal mawr i'w gadw'n ddiogel rhag camddefnydd.
- Fyddwn ni byth yn ei werthu.
- Rydych chi'n cadw perchnogaeth a rheolaeth arno.
Rhyddid
Mae Thunderbird yn perthyn i chi (a'r byd).
Mae Thunderbird yn Feddalwedd Cod Agored ac Am Ddim, sy'n golygu bod ei god ar gael i'w weld, ei addasu, ei ddefnyddio a'i rannu'n rhydd. Mae ei drwydded hefyd yn sicrhau y bydd yn parhau'n rhydd am byth. Gallwch chi feddwl am Thunderbird fel anrheg i chi gan filoedd o gyfranwyr.
Dysgu Am MPL 2.0Llais
Mae gennych chi ran yn nyfodol Thunderbird.
Mae Thunderbird yn rhydd o'r gofynion a'r cymhellion masnachol sy'n aml yn arwain datblygiad meddalwedd. Gall unrhyw un gymryd rhan i helpu i wneud Thunderbird yn well ac ar gael i fwy o bobl. Mae cyngor a etholwyd gan gyfranwyr yn sicrhau bod Thunderbird yn aros yn driw i'w werthoedd a'i genhadaeth.
Yn cael ei yrru gan y Gymuned
Gall unrhyw un helpu i wneud Thunderbird yn well. Gall rhaglenwyr gyfrannu nodweddion y maen nhw'n yn angerddol amdanyn nhw neu wella'r cod presennol. Gall y rhai sy'n amlieithog wneud Thunderbird yn hygyrch i bawb. Gall y rhai sy'n barod i wneud, brofi fersiynau newydd o Thunderbird a materion dogfen. Mae yna lawer o ffyrdd i ddod yn rhan o gymuned lewyrchus sy'n gwneud Thunderbird yn unigryw. Ac os nad oes gennych chi'r amser i wirfoddoli, gallwch chi helpu i gefnogi'r project trwy roddion.
Dysgwch Sut i Gymryd RhanYn rhan o Deulu Mozilla
Mae Thunderbird yn gweithredu fel is-gwmni er-elw i'r Mozilla Foundation, y sefydliad dim-er-elw. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i ni o ran cynnig gwasanaethau taledig dewisol i gynnal datblygiad feddalwedd cod agored ac am ddim Thunderbird ymhell i'r dyfodol.
Mae gennym dîm cynyddol o weithwyr dawnus sy'n datblygu a chynnal Thunderbird, yn cydweithredu â'n cymuned a'n partneriaid, ac yn gweithio i gyflwyno Thunderbird i ddefnyddwyr ledled y byd.