Nodweddion Creiddiol
Eich pwerau cynhyrchiant newydd.
Dim Hysbysebion na Ysbïwar
Mae wir yn rhydd a rhad!
Yn lle gwneud arian drwy hysbysebion neu ddata, mae Thunderbird yn cael ei ddatblygu gyda rhoddion o amser ac arian gan bobl yn union fel chi. Rheolwch eich e-bost heb ildio mwy o'ch preifatrwydd.
Darllenwch Ein Polisi PreifatrwyddAp e-bost y cyfan-mewn-un
Lleihewch annibendod apiau.
Crynhowch eich holl apiau e-bost yn un ap pwerus sy'n parchu'ch preifatrwydd a'ch rhyddid. Gallwch weld eich negeseuon ar wahân neu mewn un blwch derbyn cyfun.
Cymorth Cyfrifon Lluosog
Peidiwch â cholli neges.
Cydweddwch gyda chyfrifon e-bost ar gyfer y cartref, yr ysgol, a gwaith. Bron unrhyw le y byddwch yn derbyn negeseuon, byddwn yno ar eich cyfer.
Amgryptio E-bost Uwch
Anfonwch a derbyn negeseuon diogel ar unrhyw gyfrif.
Gall defnyddwyr uwch sydd eisiau'r lefel uchaf o breifatrwydd anfon a derbyn e-byst wedi'u hamgryptio gan ddefnyddio'r safon OpenPGP wrth eu paru â'r ap OpenKeychain cod agored ac am ddim. Fydd hyd yn oed eich darparwr e-bost ddim yn cael mynediad at eich negeseuon.
Rhyngwyneb Golau a Thywyll
Cydweddwch eich dewisiadau neu amgylchedd.
Darllenwch eich e-bost unrhyw adeg o'r dydd ac yn y ffordd rydych chi'n ei hoffi gyda chefnogaeth modd tywyll a golau brodorol. Bydd llawer o nodweddion rhyngwyneb bach yn gwneud ichi syrthio mewn cariad â Thunderbird Symudol.
Bob Amser yn Rhydd, Rhad ac Agored
Anrheg gan bobl fel chi yw Thunderbird.
Mae miloedd wedi cyfrannu amser ac arian i wneud Thunderbird yn bosib. Mae ei god yn god agored ac wedi'i drwyddedu'n rhydd i'w ddefnyddio, ei addasu a'i rannu. Nid yw Thunderbird dim ond yn rhad ac yn rhydd, mae'n eich gwneud chi'n rhydd.
Dysgwch Am Ein CenhadaethGosod Sydyn
Gall defnyddwyr Thunderbird Bwrdd Gwaith symud eu gosodiadau yn sydyn. Sganiwch god QR yr ap bwrdd gwaith o'r ap symudol.
Adnoddau defnyddiol
Gwella eich Sgiliau Thunderbird.
Cychwyn Arni
Gall bron unrhyw un gymryd rhan mewn gwneud Thunderbird yn well ac yn fwy hygyrch i eraill. Dewch i ddysgu pa gyfleoedd sydd ar gael. Dewch o hyd i ffyrdd o gyfrannu at y project:
Sut i GyfranogiRhannu Syniadau
Pan fydd datblygwyr, dylunwyr a defnyddwyr yn gweithio gyda'i gilydd mae pethau rhyfeddol yn digwydd. Dewch i rannu eich syniadau ar sut y gall Thunderbird fod yn well.
Mozilla ConnectCanfod Cymorth
Dysgwch sut i ddefnyddio Thunderbird a gofynnwch eich cwestiynau. Mae cyfranwyr Thunderbird o bob cwr o'r byd yn gweithio i wneud eich profiad yn un gwych.
Gwefan Cefnogi