Cymryd rhan

Rydym Angen Eich Doniau

Gall pawb fod yn gyfrannwr. Dyma rai o'r ffyrdd y gallwch chi helpu.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu i greu Thunderbird a sicrhau ei fod yn hygyrch ledled y byd mewn dwsinau o ieithoedd. Maen nhw'n ysgrifennu'r ddogfennaeth ac yn ateb y cwestiynau sy'n helpu pobl gyffredin i ddefnyddio Thunderbird.

Codio

Os oes gennych chi brofiad rhaglennu mae yna lawer o ffyrdd i gyfrannu at broject Thunderbird. Dechreuwch trwy nodi'r maes lle mae gennych y profiad a'r diddordeb mwyaf a dilynwch y camau i ddechrau:

Datblygiad y Bwrdd Gwaith:

Datblygu Android:

Datblygiad Gwefan:

Profi

Gyda chymaint o amgylcheddau caledwedd a llifoedd gwaith unigryw, mae aelodau'r gymuned sy'n profi adeiladau Thunderbird cyn rhyddhau yn chwarae rhan hanfodol yn ansawdd y feddalwedd. Hefyd, rydych chi'n helpu i ddal gwallau cyn y gallan nhw gyrraedd y cyhoedd!

Cyfieithu

Mae'r byd i gyd yn haeddu meddalwedd cod agored am ddim, ac ar hyn o bryd mae Thunderbird yn cael ei gyfieithu i fwy na 50 o ieithoedd! Defnyddiwch eich doniau amlieithog i helpu i wneud Thunderbird ar gael yn ehangach nag erioed.

Cefnogaeth

Ydych chi'n ddefnyddiwr Thunderbird profiadol sydd wrth ei fodd yn rhoi help llaw? Gwnewch ddefnydd mawr o'ch gwybodaeth trwy ymuno â'n Criw Cefnogi a helpu defnyddwyr ledled y byd gyda'u cwestiynau am Thunderbird.

Gallwch ymuno â'n hystafell Cymorth Cymunedol Thunderbird ar Matrix i gael a rhoi cymorth i ddefnyddwyr.

Dogfennu

Helpwch i sicrhau bod yr atebion yn cael eu cofnodi cyn i'r cwestiwn gael ei ofyn hyd yn oed! O ddogfennu nodweddion neu APIs i gwestiynau cymorth defnyddwyr cyffredin, cyfrannwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau ysgrifennu i'w defnyddio er budd cymuned Thunderbird gyfan.

Hyrwyddo

Eiriolaeth yw un o'r ffyrdd hawsaf o gyfrannu at Thunderbird! Rhowch hwb i'n negeseuon ar Mastodon, dangos y feddalwedd i ffrindiau, annog ateb defnyddiol ar Reddit; mae unrhyw beth sy'n ychwanegu gwelededd yn help mawr. Dyma ble i ddod o hyd i ni ar lwyfannau cymdeithasol amrywiol, a sut i gymryd rhan.

Dylunio

Rhannwch eich syniadau, a chyfrannwch at y sgyrsiau parhaus am UX ac UI Thunderbird. Rydym yn croesawu eich adborth i ddyluniadau datblygwyr ar ein rhestr bostio UX, a'n hystafell Matrix cydymaith.

Un ffordd arall y gallwch gyfrannu yw drwy rannu syniadau, blaenoriaethau ac adborth. Chi biau Thunderbird ac rydyn ni'n gwrando.

Mozilla Connect

Profiad Cyfranwyr

Mae'r ffyrdd a'r rhesymau dros gymryd rhan mor amrywiol â'r bobl sy'n gwneud hynny.

Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol ac yn dod â doniau unigryw. Maen nhw'n gwneud Thunderbird yn well iddyn nhw eu hunain ac yn well i'r byd ar yr un pryd. Gallwch chi ymuno â nhw.

Mae Thunderbird yn dyst i bŵer cyfraniad y gymuned cod agored at ysgogi arloesedd ac effeithlonrwydd.
Berna
Arweinyddiaeth, y Swistir
Os nad oes gennych gyfraniad i'r gêm, does dim modd i chi gwyno am y cyfeiriad y mae'r cynnyrch yn mynd iddo.
Arthur
Triagwr Gwallau, UDA
Mae'n wych gallu gwella'r meddalwedd trwy drwsio pethau bach sy'n effeithio arnaf i a defnyddwyr eraill
Hartmut
Datblygwr, yr Almaen
Rwy'n gwirfoddoli i ddefnyddio'r fersiynau beta cyn gynted ag y maen nhw'n cael eu hadeiladu, adrodd am faterion wrth ddod o hyd iddyn nhw a phrofi'r atebion.
Doug
Profwr a Triagwr Gwallau, UDA
Rwy'n gwirfoddoli i gynorthwyo eraill yn Fforwm Cefnogi Thunderbird, sy'n brofiad gwerth chweil i mi.
Toad-Hall
Cymorth a Triagwr Gwallau, Y Deyrnas Unedig
Dechreuais trwy gyfrannu cyfieithiadau, gan feddwl bod pobl sy'n siarad fy iaith yn haeddu fersiynau lleol.
Bogo
Cyfieithydd, Triagwr Gwallau ac Arweinyddiaeth, Bwlgaria

Siapio'r Dyfodol

Gwella meddalwedd a bywydau trwy wirfoddoli.

Lluniwch offer rydych am eu defnyddio. Helpwch eraill i ddod o hyd i a defnyddio meddalwedd sy'n parchu eu preifatrwydd a'u rhyddid. Dewch yn rhan o ddyfodol gwell i chi'ch hun ac eraill trwy roi eich doniau ar waith yn Thunderbird. Darllenwch ymhellach i ddysgu sut mae gwneud.

Gêrs amrywiol i gyd yn gweithio ochr yn ochr â chalon, symbol cod, chwyddwydr yn dangos byg bach iawn, a Logo Thunderbird yng nghanol y cyfan.

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.