Thunderbird Monthly releases are now the default download. Click to learn more

Thunderbird y Bwrdd Gwaith

E-bost, Calendr, a Chysylltiadau pwerus ar gyfer Windows, Linux, a macOS. Meddalwedd rhydd a rhad wedi'i gynllunio i'ch gwneud chi'n rhydd.

Nodweddion Creiddiol

Eich pwerau cynhyrchiant newydd.

Cefnogaeth Cyfrifon Lluosog

Rheoli eich holl negeseuon e-bost mewn un man.

Mae gan eich holl gyfrifon e-bost gartref yn Thunderbird. Rheolwch gyfrifon ar wahân neu mewn blwch derbyn cyfun. Chwiliwch a threfnu yn rhwydd. Ffarweliwch â'r holl dabiau porwr hynny!

Cylch wedi ei groesi allan yn erbyn cefndir pinc.

Profiad Rhydd o Hysbysebion

Yn rhydd a rhad, heb amodau.

Nid ydym yn gwneud arian trwy ddarllen eich e-bost. Nid ydym yn llanw'ch blwch derbyn gyda hysbysebion. Mwynhewch ryngwyneb glân sy'n rhydd o hysbysebion a chloddio data.

Darllenwch Ein Polisi Preifatrwydd

Cefnogaeth Traws Blatfform

Dylai eich e-bost weithio ble bynnag yr ydych chi.

Peidiwch byth â chael eich hun wedi'ch cloi i mewn i ecosystem. Defnyddiwch y system weithredu rydych chi'n ei hoffi a newidiwch pryd bynnag y dymunwch tra'n mwynhau'r un profiad ag ap bwrdd gwaith.

Gweld Pob Fersiwn Sydd Ar Gael
Llun sgrin wedi'i docio o ryngwyneb Thunderbird.

Calendr, Cysylltiadau, a Thasgau

Oherwydd mai dim ond un rhan o fod yn gynhyrchiol yw e-bost.

Mae Thunderbird yn eich helpu i reoli'ch apwyntiadau, cysylltiadau a thasgau. Cadwch yn drefnus, yn gynhyrchiol, ac yn gysylltiedig i gyd mewn un man.

Gwell Diogelwch a Phreifatrwydd

Bod yn ddiogel ac mewn rheolaeth.

Mae Thunderbird yn god agored. Mae ei god wedi cael ei adolygu a'i wella'n gyson dros 20 mlynedd. Mae tryloywder yn ein cadw ni'n atebol a chi'n ddiogel.

Gweld y Cod Ffynhonnell
Logo Thunderbird mewn blwch rhodd agored.

Bob Amser yn Rhydd, Rhad ac Agored

Anrheg gan bobl fel chi yw Thunderbird.

Mae miloedd wedi cyfrannu amser ac arian i wneud Thunderbird yn bosib. Mae ei god yn god agored ac wedi'i drwyddedu'n rhydd i'w ddefnyddio, ei addasu a'i rannu. Nid yw Thunderbird dim ond yn rhad ac yn rhydd, mae'n eich gwneud chi'n rhydd.

Dysgwch Am Ein Cenhadaeth

Ecosystem Trydydd Parti

Nid yw'r hyn y gallwch chi ei wneud gyda Thunderbird yn aros gyda ni.

Archwiliwch Ychwanegion Thunderbird
Grid o eiconau ychwanegion amrywiol.

Adnoddau defnyddiol

Gwella eich Sgiliau Thunderbird.

Cychwyn Arni

Gall bron unrhyw un gymryd rhan mewn gwneud Thunderbird yn well ac yn fwy hygyrch i eraill. Dewch i ddysgu pa gyfleoedd sydd ar gael. Dewch o hyd i ffyrdd o gyfrannu at y project:

Sut i Gyfranogi

Rhannu Syniadau

Pan fydd datblygwyr, dylunwyr a defnyddwyr yn gweithio gyda'i gilydd mae pethau rhyfeddol yn digwydd. Dewch i rannu eich syniadau ar sut y gall Thunderbird fod yn well.

Mozilla Connect

Canfod Cymorth

Dysgwch sut i ddefnyddio Thunderbird a gofynnwch eich cwestiynau. Mae cyfranwyr Thunderbird o bob cwr o'r byd yn gweithio i wneud eich profiad yn un gwych.

Gwefan Cefnogi

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.