Cysylltu â ni

Angen Siarad?

Cyfeiriwch eich ymholiadau at y timau isod.

Cefnogaeth

Am gwestiynau am sut i ddefnyddio Thunderbird, ewch a chwiliwch ar ein Gwefan Gymorth. Mae croeso i chi gyflwyno cwestiwn newydd os na allwch ddod o hyd i ateb. Cofiwch fod yn gwrtais i'n staff a'n gwirfoddolwyr.

I gael y gefnogaeth orau, gofynnwch eich cwestiwn yn Saesneg. Os yw'n well gennych ofyn cwestiwn yn Cymraeg gallwch roi cynnig ar y fforwm cymunedol hwn nad yw'n un Mozilla.

Gwefan Cefnogi Cymorth i Roddwyr

Diogelwch

I roi gwybod am fregusrwydd meddalwedd, cyflwynwch fater ar Bugzilla gyda'r blwch diogelwch wedi'i dicio. Bydd y marc ticio hwn yn gwneud yr adroddiad yn weladwy dim ond i'n tîm diogelwch, a all fynd i'r afael â gwendidau cyn datgelu'n gyhoeddus.

Bugzilla

Cyfryngau

Mae Thunderbird a'r bobl sy'n ei greu yn anhygoel. Gallwch gysylltu â'n tîm ar gyfer eich stori, adolygiad neu gynnwys arall trwy e-bostio ein Tîm Allgymorth.

Tîm Allgymorth

Busnes

Dylai sefydliadau sydd am noddi datblygiad meddalwedd neu gael cymorth gyda gosodiadau ar raddfa fawr anfon e-bost at ein Tîm Busnes. Mae'r tîm hwn hefyd yn delio gydag ymholiadau partneriaeth eraill.

Tîm Busnes

Cymryd rhan

Os oes gennych chi ddoniau yr hoffech chi eu rhannu ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, ewch i'n tudalen Cyfranogi. Yma fe welwch y gymuned wirfoddol sy'n cyfateb i'ch diddordebau.

Tudalen Cyfranogi

Cyfreithiol

Diogelwch ddefnyddwyr y dyfodol rhag drwgwar, cloddio data neu gael eich gorfodi i dalu'n dwyllodrus am Thunderbird trwy adrodd ar gamddefnyddio'r nod masnach. Os ydych yn credu ein bod yn torri eich hawlfraint neu nod masnach, anfonwch hysbysiad DMCA.

Camddefnyddio Nodau Masnach Hysbysiad DMCA

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.