Cyfrannwch

Dod yn Gefnogwr

Helpwch ni i wneud Thunderbird yn well.

MZLA Corporation yw'r sefydliad er-elw sy'n cynnal cenhadaeth meddalwedd rhydd a rhad Thunderbird. Ein gwaith yw darparu rhaglenni cod agored sy'n ddiogel, yn breifat ac am ddim i ddefnyddwyr ledled y byd. Pan fyddwch chi'n rhoi rydych chi'n ein helpu ni gyda:

  • Datblygu rhaglenni, integreiddiadau a nodweddion newydd
  • Gwella'r rhyngwyneb, cyflymder a sefydlogrwydd
  • Hyrwyddo Thunderbird a rhyddid meddalwedd
  • Gweini miliynau o lwythi rhaglenni am ddim bob blwyddyn

Nid yw treth yn ddidynadwy fel rhodd elusennol

Cwestiynau Cyffredin

Cysylltu â ni

Cwestiynau am roi? Edrychwch ar yr atebion cyffredin isod. Os oes angen help arnoch i gyfrannu o hyd, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen hon.
Am roi adborth cynnyrch? Ewch draw i Mozilla Connect.
Angen cynnyrch neu gefnogaeth dechnegol? Ewch i'n cronfa wybodaeth a fforwm cymorth cymunedol.

Sut gallaf i wneud rhodd?

Gallwch rhoi ar-lein yn ddiogel gyda cherdyn credyd neu PayPal, Google Pay, Apple Pay, a thrwy drosglwyddiadau banc drwy SEPA, iDEAL ac ACH.
Rhowch eich arian lleol! Rydym yn derbyn dros 100! Dewiswch eich un chi o'r gwymplen nesaf at ‘Amount’.
Gallwch roi all-lein mewn USD yn unig drwy bostio siec neu archeb arian yn daladwy i "MZLA Technologies Corp". Postiwch i:

  • MZLA
  • Blwch SP 25718
  • Pasadena CA 91185-5718

Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost ar linell memo eich siec i'n helpu i olrhain a phriodoli eich rhodd. Dim ond trwy e-bost y gallwn anfon derbynebau cydnabod.

Rhowch rhodd o'ch amser! Os hoffech ddysgu sut i gyfrannu at Thunderbird mewn ffyrdd eraill megis codio, cyfieithu neu profi, ewch i'n tudalen Cymryd rhan.

Sut mae diddymu neu newid fy anrheg cylchol? A allaf newid fy null talu neu amlder fy rhodd?

Cyrchwch fanylion eich cynllun o'r Porth Rhoddwyr neu o'r botwm 'Rheoli Fy Nghyfraniad' ar eich e-bost cadarnhau rhodd diweddar. Gallwch newid y swm, amlder, dull talu a dyddiad codi tâl. Gallwch hefyd ddiddymu'ch cynllun cylchol a llwytho'ch derbynebau i lawr.

A yw fy rhodd yn rhoi mynediad i gefnogaeth dechnegol i mi?

Mae pob cymorth technegol Thunderbird yn gymunedol ac ar gael i bawb. Ewch i'n fforwm cymorth. Nid ydym yn darparu cymorth technoleg unigol yn gyfnewid am roddion ariannol.

Sut mae cael derbynneb?

Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost pryd bynnag y byddwch yn cyfrannu a bydd hyn yn cynnwys derbynneb ar gyfer eich cofnodion. Gallwch hefyd gael mynediad at eich hanes derbynebau unrhyw bryd o'n Porth Rhoddwyr.

A oes modd tynnu treth o fy rhodd?

Er nad oes modd tynnu treth o roddion i Thunderbird maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi yn fawr!
Mae rhoi i Thunderbird yn cefnogi datblygiad ein rhaglen e-bost a chalendrau traws-lwyfan cod agored blaengar, sydd am ddim at ddefnydd busnes a phersonol. Bydd eich rhodd yn helpu i sicrhau ei fod yn aros felly, a bydd yn cefnogi ei ddatblygiad i'r dyfodol.

Pam mae angen fy nghyfeiriad arnoch er mwyn prosesu rhodd?

Rydym yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig iawn -- rydym yn cytuno, ac mae hynny'n un o'n gwerthoedd craidd ni yn Thunderbird a Mozilla. Mae eich cyfeiriad yn rhan o'n Manylion Prosesu Talu, Cyswllt a Rhoi rydym yn ei hamlinellu yn ein Polisi Preifatrwydd. Mae'r data hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion prosesu taliadau, derbynebau trafodion, canfod twyll a chadw cofnodion. Os hoffech wybod mwy am y data manylion personol rydym yn ei dderbyn, y gwerthwyr trydydd parti rydym yn ymddiried ynddyn nhw, a pha mor hir rydym yn cadw eich data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Gwefannau, Cyfathrebu a Chwcis.

A oes modd i mi i ddiffodd yr apêl ar dudalen gychwyn Thunderbird?

I weld sut i newid eich tudalen gychwyn ewch i:
https://support.mozilla.org/kb/how-disable-or-change-thunderbird-start-page

Sut ga i dderbynneb busnes?

Pan fyddwch yn rhoi drwy ein ffurflen ar-lein, ticiwch y blwch 'Cyfrannu fel Sefydliad' a chynnwys enw eich cwmni. Bydd eich derbynneb trafodiad yn cynnwys enw eich cwmni. Os oes angen copi o'ch derbynneb arnoch, llwythwch ef i lawr o'n Porth Rhoddwyr.

A yw fy rhodd yn ddiogel?

Ydy, rydym yn defnyddio technoleg SSL safon y diwydiant i gadw'ch manylion yn ddiogel. Rydym yn bartner gyda Stripe, prosesydd taliadau sefydledig y diwydiant y mae rhai o gwmnïau mwyaf y byd yn ymddiried ynddo. Nid yw eich manylion ariannol sensitif byth yn cyffwrdd â'n gweinyddion. Rydym yn anfon yr holl ddata yn uniongyrchol at weinyddion sy'n cydymffurfio â PCI Stripe trwy SSL. Rydym yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig iawn. Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at Bolisi Preifatrwydd Mozilla.

A allaf ofyn am ad-daliad?

Efallai y bydd eich rhodd yn gymwys i gael ad-daliad. Rhaid i chi gysylltu â ni o fewn 15 diwrnod ar ôl dyddiad y rhodd. Os ydych chi'n credu bod y rhodd hon wedi'i gwneud heb eich caniatâd, cysylltwch â ni ar unwaith. Nid yw rhoddion sydd wedi eu gwneud trwy ddebyd uniongyrchol ACH neu SEPA yn gymwys i gael ad-daliadau. Oherwydd natur y trafodion hyn mae ein polisi yn rhoi blaenoriaeth i leihau twyll ad-daliadau. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth am hyn. Os ydych angen cymorth, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

A oes ffioedd ychwanegol at fy rhodd?

Nid ydym yn casglu unrhyw ffioedd na threthi ychwanegol. Pan fyddwch yn rhoi yn eich arian lleol nid oes ffi trosi yn cael ei godi arnoch gan eich cerdyn credyd. O ddewis, gallwch ddewis talu ein costau trafodion yn eich rhodd. Mae hyn yn gwbl wirfoddol a gallwch optio i mewn neu allan gan ddefnyddio'r blwch ticio ar ein ffurflen gyfrannu. Mae ein sefydliad wedi'i leoli yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn annog rhoddwyr i ymchwilio i unrhyw drethi neu ffioedd allanol ychwanegol y mae modd eu gosod gan reoleiddwyr fel eich banc neu awdurdod trethi.

Beth mae costau trafodion yn ei gynnwys?

Pan fyddwch chi'n dewis talu ein costau trafodion, rydych chi'n talu am ein costau prosesu a'n costau llwyfan cyfrannu. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â’n system rhoddion ar-lein gadarn yn ein galluogi i barhau i gynyddu’n gynaliadwy wrth i’n sylfaen cefnogwyr dyfu. Mae ein platfform rhoddion a'n partneriaid prosesu taliadau yn lleihau costau mewnol sy'n gysylltiedig â chynnal ein system ein hunain o'r dechrau. Mae ein partneriaid yn sicrhau y gallwn dderbyn ystod eang o arian cyfred/dulliau talu ac yn parhau i gydymffurfio â PCI ym mhob un o'r gwledydd rydym yn derbyn rhoddion oddi wrthyn nhw. Mae'r costau trafodion y gall rhoddwyr ddewis eu talu yn seiliedig ar amcangyfrif o'n costau cyffredinol. Oherwydd llawer o ffactorau gall costau gwirioneddol amrywio.

Pam mae rhoddion un-tro yn ymddangos fel rhai cylchol yng ngorchymyn SEPA?

Wrth wneud rhodd un-tro trwy ddebyd uniongyrchol SEPA, efallai y byddwch yn sylwi ar yr awgrym am drafodion rheolaidd. Mae hyn oherwydd taw dim ond trafodion cylchol ar gyfer y math hwn o daliad mae ein prosesydd taliadau Stripe yn ei gefnogi . Er hynny, dim ond unwaith y byddwn yn codi tâl arnoch ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw daliadau pellach ar eich cyfrif heb i chi ei awdurdodi. Yn dilyn y mandad, byddwch yn derbyn derbynneb rhodd swyddogol a fydd yn dangos yn glir y rhodd un-tro.

A allaf roi arian cyfred digidol i mewn?

Na. Nid ydym yn derbyn rhoddion arian cyfred digidol ar hyn o bryd.

Sut fydd fy rhodd yn cael ei defnyddio?

Thunderbird yw'r prif raglen e-bost cod agored a chynhyrchiant sydd am ddim at ddefnydd busnes a phersonol. Mae eich rhodd yn helpu i sicrhau ei fod yn aros felly, ac yn cefnogi ei ddatblygiad parhaus.

Beth yw perthynas Thunderbird â MZLA Technologies Corporation?

Mae MZLA Technologies Corporation yn is-gwmni er elw sy'n eiddo llwyr i'r Mozilla Foundation a chartref Thunderbird.

Onid yw Thunderbird yn ennill incwm?

Ar hyn o bryd, mae bron i 100% o refeniw gweithredu Thunderbird yn dod o roddion hael defnyddwyr Thunderbird.

Dod yn Noddwr Corfforaethol

Sicrhewch ddyfodol agored i chi'ch hun a'r byd.

Gall sefydliadau sy'n defnyddio Thunderbird ar raddfa fawr neu sy'n rhannu ein hangerdd dros ehangu rhyddid digidol wneud gwahaniaeth trwy ddod yn noddwr corfforaethol am gyfnod penodol neu barhaol. Mae modd gwneud cyfraniadau bach i ganolig gyda'r ffurflen uchod. Am roddion mwy na $5000 USD, cysylltwch â'n tîm busnes. Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth hael!

Roced gyda logo Thunderbird arno.

Beth sy ar y Gorwel

Mae Thunderbird yn gwella o hyd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.