Mae'r rhain yn cael eu cynnal yn swyddogol a'u dosbarthu gan Thunderbird. Llwythwch y fersiwn Rhyddhau diweddaraf i lawr oni bai eich bod am brofi'r fersiwn Beta ac adrodd ar wallau.
Y sianel Daily yw lle mae datblygu a phrofi'n dechrau, a nodweddion newydd yn cael eu datblygu. Hon fydd y sianel leiaf sefydlog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud copïau wrth gefn o ddata pwysig yn rheolaidd.
Y sianel Beta yw lle mae sefydlogi'n digwydd. Mae disgwyl i hwn fod yn fwy sefydlog na Daily, ond nid mor sefydlog â'r sianeli Rhyddhau neu Ryddhau Cymorth Estynedig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud copïau wrth gefn o ddata pwysig yn rheolaidd.
Y datganiad cymorth estynedig blynyddol swyddogol. Mae'r datganiad hwn wedi'i fwriadu ar gyfer defnyddwyr sydd eisiau'r holl nodweddion newydd sydd ar gael yn flynyddol a'r cywiriadau sefydlogrwydd/diogelwch yn fisol.
Y datganiad misol swyddogol. Mae'r datganiad hwn wedi'i fwriadu ar gyfer defnyddwyr sydd eisiau'r holl nodweddion newydd a'r cywiriadau misol.